53 Y tad a ymranna yn erbyn y mab, a'r mab yn erbyn y tad, y fam yn erbyn y ferch, a'r ferch yn erbyn y fam; y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin, yn y fan y dywedwch, Y mae cawod yn dyfod: ac felly y mae.
55 A phan weloch y deheuwynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwres: ac fe fydd.
56 O ragrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wynepryd y ddaear a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?
57 A phaham nad ydych, ie, ohonoch eich hunain, yn barnu'r hyn sydd gyfiawn?
58 Canys tra fyddech yn myned gyda'th wrthwynebwr at lywodraethwr, gwna dy orau ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho; rhag iddo dy ddwyn at y barnwr, ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yng ngharchar:
59 Yr wyf yn dywedyd i ti, Nad ei di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie, yr hatling eithaf.