8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i gerbron dynion, Mab y dyn hefyd a'i haddef yntau gerbron angylion Duw.
9 A'r hwn a'm gwado i gerbron dynion, a wedir gerbron angylion Duw.
10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dyn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni faddeuir.
11 A phan y'ch dygant i'r synagogau, ac at y llywiawdwyr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a ateboch, neu beth a ddywedoch:
12 Canys yr Ysbryd Glân a ddysg i chwi yn yr awr honno beth sydd raid ei ddywedyd.
13 A rhyw un o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi yr etifeddiaeth.
14 Yntau a ddywedodd wrtho, Y dyn, pwy a'm gosododd i yn farnwr neu yn rhannwr arnoch chwi?