1 Bu hefyd, pan ddaeth efe i dŷ un o benaethiaid y Phariseaid ar y Saboth, i fwyta bara, iddynt hwythau ei wylied ef.
2 Ac wele, yr oedd ger ei fron ef ryw ddyn yn glaf o'r dropsi.
3 A'r Iesu gan ateb a lefarodd wrth y cyfreithwyr a'r Phariseaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Saboth?
4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymerodd ato, ac a'i hiachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymaith;