8 Pan y'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle uchaf, rhag bod un anrhydeddusach na thi wedi ei wahodd ganddo;
9 Ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntau ddyfod, a dywedyd wrthyt, Dyro le i hwn; ac yna dechrau ohonot ti trwy gywilydd gymryd y lle isaf.
10 Eithr pan y'th wahodder, dos ac eistedd yn y lle isaf; fel pan ddelo'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthyt, Y cyfaill, eistedd yn uwch i fyny: yna y bydd i ti glod yng ngŵydd y rhai a eisteddant gyda thi ar y bwrdd.
11 Canys pob un a'r a'i dyrchafo ei hun, a ostyngir; a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasai ef, Pan wnelych ginio neu swper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymdogion goludog; rhag iddynt hwythau eilchwyl dy wahodd dithau, a gwneuthur taledigaeth i ti.
13 Eithr pan wnelych wledd, galw'r tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
14 A dedwydd fyddi; am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn atgyfodiad y rhai cyfiawn.