20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl.
21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o'ch mewn chwi y mae.
22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch.
23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt.
24 Canys megis y mae'r fellten a felltenna o'r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef.
25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn.