1 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio;
2 Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn.
3 Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr.
4 Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn;
5 Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn.