28 A dywedodd Pedr, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ganlynasom di.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, Nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw,
30 A'r ni dderbyn lawer cymaint yn y pryd hwn, ac yn y byd a ddaw fywyd tragwyddol.
31 Ac efe a gymerodd y deuddeg ato, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fyny i Jerwsalem; a chyflawnir pob peth a'r sydd yn ysgrifenedig trwy'r proffwydi am Fab y dyn.
32 Canys efe a draddodir i'r Cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:
33 Ac wedi iddynt ei fflangellu, y lladdant ef: a'r trydydd dydd efe a atgyfyd.
34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn; a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywedwyd.