4 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5 Eithr hwy a ymresymasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef; efe a ddywed, Paham gan hynny na chredech ef?
6 Ac os dywedwn, O ddynion; yr holl bobl a'n llabyddiant ni: canys y maent hwy yn cwbl gredu fod Ioan yn broffwyd.
7 A hwy a atebasant, nas gwyddent o ba le.
8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finnau yn dywedyd i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
9 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddameg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwyr, ac a aeth oddi cartref dros dalm o amser.
10 Ac mewn amser efe a anfonodd was at y llafurwyr, fel y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llafurwyr a'i curasant ef, ac a'i hanfonasant ymaith yn waglaw.