1 Ac wedi iddo edrych i fyny, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na hwynt oll:
4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y deml, ei bod hi wedi ei harddu â meini teg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw'r dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen, a'r nis datodir.