10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas:
11 A daeargrynfâu mawrion a fyddant yn amryw leoedd, a newyn, a heintiau; a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nef.
12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac a'ch erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn gerbron brenhinoedd a llywodraethwyr o achos fy enw i.
13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14 Am hynny rhoddwch eich bryd ar na ragfyfyrioch beth a ateboch:
15 Canys myfi a roddaf i chwi enau a doethineb, yr hon nis gall eich holl wrthwynebwyr na dywedyd yn ei herbyn na'i gwrthsefyll.
16 A chwi a fradychir, ie, gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai ohonoch y parant farwolaeth.