17 A chas fyddwch gan bawb oherwydd fy enw i.
18 Ond ni chyll blewyn o'ch pen chwi.
19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
20 A phan weloch Jerwsalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fod ei hanghyfanhedd‐dra hi wedi nesáu.
21 Yna y rhai fyddant yn Jwdea, ffoant i'r mynyddoedd; a'r rhai a fyddant yn ei chanol hi, ymadawant; a'r rhai a fyddant yn y meysydd, nac elont i mewn iddi.
22 Canys dyddiau dial yw'r rhai hyn, i gyflawni'r holl bethau a ysgrifennwyd.
23 Eithr gwae'r rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny! canys bydd angen mawr yn y tir, a digofaint ar y bobl hyn.