18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorff yr hwn yr ydys yn ei roddi drosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf.
20 Yr un modd y cwpan hefyd wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw'r testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch.
21 Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyda mi ar y bwrdd.
22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y bradychir ef!
23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.