22 Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y bradychir ef!
23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hunain, pwy ohonynt oedd yr hwn a wnâi hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwyaf.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt; a'r rhai sydd mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26 Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf; a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27 Canys pa un fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? onid yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyf fi yn eich mysg fel un yn gwasanaethu.
28 A chwychwi yw'r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.