28 A chwychwi yw'r rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau.
29 Ac yr wyf fi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhad i minnau;
30 Fel y bwytaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg llwyth Israel.
31 A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:
32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y'th droer, cadarnha dy frodyr.
33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau.
34 Yntau a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti, Pedr, Na chân y ceiliog heddiw, nes i ti wadu dair gwaith yr adwaeni fi.