3 A Satan a seth i mewn i Jwdas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi'r deuddeg.
4 Ac efe a aeth ymaith, ac a ymddiddanodd â'r archoffeiriaid a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychai efe ef iddynt.
5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gytunasant ar roddi arian iddo.
6 Ac efe a addawodd, ac a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef iddynt yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y pasg.
8 Ac efe a anfonodd Pedr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni'r pasg, fel y bwytaom.
9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi ohonom?