36 Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr y neb sydd ganddo bwrs, cymered; a'r un modd god: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fod yn rhaid eto gyflawni ynof fi y peth hwn a ysgrifennwyd; sef, A chyda'r anwir y cyfrifwyd ef; canys y mae diben i'r pethau amdanaf fi.
38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf yma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd; a'i ddisgyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.