40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tuag ergyd carreg; ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddïodd,
42 Gan ddywedyd, O Dad, os ewyllysi droi heibio y cwpan hwn oddi wrthyf: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43 Ac angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef.
44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddïodd yn ddyfalach: a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn disgyn ar y ddaear.
45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddisgyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch;
46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.