46 Ac a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn cysgu? codwch, a gweddïwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 Ac efe eto yn llefaru, wele dyrfa; a'r hwn a elwir Jwdas, un o'r deuddeg, oedd yn myned o'u blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, i'w gusanu ef.
48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Jwdas, ai â chusan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn?
49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a drawn ni â chleddyf?
50 A rhyw un ohonynt a drawodd was yr archoffeiriad, ac a dorrodd ymaith ei glust ddeau ef.
51 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?