51 A'r Iesu a atebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn. Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i hiachaodd ef.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrth yr archoffeiriaid, a blaenoriaid y deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent ato, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau ac â ffyn?
53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch.
54 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ'r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.
55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt.
56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef.
57 Yntau a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.