53 Pan oeddwn beunydd gyda chwi yn y deml, nid estynasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch.
54 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ'r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell.
55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt.
56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef.
57 Yntau a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.
58 Ac ychydig wedi, un arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf.
59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw.