1 A'r dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y peraroglau a baratoesent, a rhai gyda hwynt.
2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddi wrth y bedd.
3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu.
4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hwn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd disglair.
5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tua'r ddaear, hwy a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw ymysg y meirw?
6 Nid yw efe yma, ond efe a gyfododd. Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe eto yng Ngalilea,