10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.
11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.
12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod o'r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem.
14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.
15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyda hwynt.
16 Eithr eu llygaid hwynt a ataliwyd, fel nas adwaenent ef.