24 A rhai o'r rhai oedd gyda nyni a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasai'r gwragedd: ond ef nis gwelsant.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyrfrydig o galon i gredu'r holl bethau a ddywedodd y proffwydi!
26 Onid oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogoniant?
27 A chan ddechrau ar Moses, a'r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl ysgrythurau y pethau amdano ei hun.
28 Ac yr oeddynt yn nesáu i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach.
29 A hwy a'i cymellasant ef, gan ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gyda hwynt.
30 A darfu, ac efe yn eistedd gyda hwynt, efe a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt.