39 Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch: canys nid oes gan ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch fod gennyf fi.
40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.
41 Ac a hwy eto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi yma ddim bwyd?
42 A hwy a roesant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl.
43 Yntau a'i cymerodd, ac a'i bwytaodd yn eu gŵydd hwynt.
44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dyma'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn eto gyda chwi, bod yn rhaid cyflawni pob peth a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses, a'r proffwydi, a'r salmau, amdanaf fi.
45 Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr ysgrythurau.