48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
49 Ac wele, yr ydwyf fi yn anfon addewid fy Nhad arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Jerwsalem, hyd oni wisger chwi â nerth o'r uchelder.
50 Ac efe a'u dug hwynt allan hyd ym Methania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'u bendithiodd hwynt.
51 Ac fe a ddarfu, tra oedd efe yn eu bendithio hwynt, ymadael ohono ef oddi wrthynt, ac efe a ddygwyd i fyny i'r nef.
52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gyda llawenydd mawr:
53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw. Amen.