7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mab y dyn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groeshoelio, a'r trydydd dydd atgyfodi.
8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef;
9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r un ar ddeg, ac i'r lleill oll.
10 A Mair Magdalen, a Joanna, a Mair mam Iago, a'r lleill gyda hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr apostolion.
11 A'u geiriau a welid yn eu golwg hwynt fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.
12 Eithr Pedr a gododd i fyny, ac a redodd at y bedd; ac wedi ymgrymu, efe a ganfu'r llieiniau wedi eu gosod o'r neilltu; ac a aeth ymaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun am y peth a ddarfuasai.
13 Ac wele, dau ohonynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emaus, yr hon oedd ynghylch tri ugain ystad oddi wrth Jerwsalem.