1 Yn y bymthegfed flwyddyn o ymerodraeth Tiberius Cesar, a Phontius Peilat yn rhaglaw Jwdea, a Herod yn detrarch Galilea, a'i frawd Philip yn detrarch Iturea a gwlad Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
2 Dan yr archoffeiriaid Annas a Chaiaffas, y daeth gair Duw at Ioan, mab Sachareias, yn y diffeithwch.
3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch er maddeuant pechodau;
4 Fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr ymadroddion Eseias y proffwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef un yn llefain yn y diffeithwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn union.
5 Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, a'r gŵyrgeimion a wneir yn union, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad:
6 A phob cnawd a wêl iachawdwriaeth Duw.
7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobl oedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi i ffoi oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod?