13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14 A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i'ch cyflogau.
15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;
16 Ioan a atebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr: ond y mae un cryfach na myfi yn dyfod, yr hwn nid wyf fi deilwng i ddatod carrai ei esgidiau: efe a'ch bedyddia chwi â'r Ysbryd Glân, ac â thân.
17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lwyr lanha ei lawr dyrnu, ac a gasgl y gwenith i'w ysgubor; ond yr us a lysg efe â thân anniffoddadwy.
18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.
19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod,