9 Ac yr awr hon y mae'r fwyell wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymynir i lawr, ac a fwrir yn tân.
10 A'r bobloedd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny a wnawn ni?
11 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr un; a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr un modd.
12 A'r publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14 A'r milwyr hefyd a ofynasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na cham-achwynwch ar neb; a byddwch fodlon i'ch cyflogau.
15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwyl, a phawb yn meddylied yn eu calonnau am Ioan, ai efe oedd y Crist;