34 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni a wnelom â thi, Iesu o Nasareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? Myfi a'th adwaen pwy ydwyt; Sanct Duw.
35 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, a dos allan ohono. A'r cythraul, wedi ei daflu ef i'r canol, a aeth allan ohono, heb wneuthur dim niwed iddo.
36 A daeth braw arnynt oll: a chyd-ymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn! gan ei fod ef trwy awdurdod a nerth yn gorchymyn yr ysbrydion aflan, a hwythau yn myned allan.
37 A sôn amdano a aeth allan i bob man o'r wlad oddi amgylch.
38 A phan gyfododd yr Iesu o'r synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon. Ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o gryd blin: a hwy a atolygasant arno drosti hi.
39 Ac efe a safodd uwch ei phen hi, ac a geryddodd y cryd; a'r cryd a'i gadawodd hi: ac yn y fan hi a gyfododd, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion o amryw glefydau, a'u dygasant hwy ato ef; ac efe a roddes ei ddwylo ar bob un ohonynt, ac a'u hiachaodd hwynt.