10 A'r un ffunud ar Iago ac Ioan hefyd, meibion Sebedeus, y rhai oedd gyfranogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion.
11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.
12 A bu, fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahanglwyf: a phan welodd efe yr Iesu, efe a syrthiodd ar ei wyneb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllysi, ti a elli fy nglanhau.
13 Yntau a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr wyf yn ewyllysio; bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahanglwyf a aeth ymaith oddi wrtho.
14 Ac efe a orchmynnodd iddo na ddywedai i neb: eithr dos ymaith, a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm dros dy lanhad, fel y gorchmynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15 A'r gair amdano a aeth yn fwy ar led: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghyd i'w wrando ef, ac i'w hiacháu ganddo o'u clefydau.
16 Ac yr oedd efe yn cilio o'r neilltu yn y diffeithwch, ac yn gweddïo.