18 Ac wele wŷr yn dwyn mewn gwely ddyn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.
19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i waered yn y gwely trwy'r priddlechau, yn y canol gerbron yr Iesu.
20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dyn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21 A'r ysgrifenyddion a'r Phariseaid a ddechreuasant ymresymu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddau pechodau ond Duw yn unig?
22 A'r Iesu, yn gwybod eu hymresymiadau hwynt, a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymu yn eich calonnau yr ydych?
23 Pa un hawsaf, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau; ai dywedyd, Cyfod, a rhodia?
24 Ond fel y gwypoch fod gan Fab y dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys,) Yr wyf yn dywedyd wrthyt, Cyfod, a chymer dy wely, a dos i'th dŷ.