1 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy'r ŷd: a'i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a'u bwytasant, gwedi eu rhwbio â'u dwylo.
2 A rhai o'r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau?
3 A'r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gydag ef;
4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a'i rhoddes hefyd i'r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i'r offeiriaid yn unig?
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.