12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i'r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;
14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus;
15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes;
16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a'r dyrfa o'i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i'w hiacháu o'u clefydau,
18 A'r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd.