24 Eithr gwae chwi'r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch.
25 Gwae chwi'r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi'r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch.
26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi.
27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt:
28 Bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant.
29 Ac i'r hwn a'th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.
30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo'n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.