28 Bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a'ch drygant.
29 Ac i'r hwn a'th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i'r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.
30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo'n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl.
31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud.
32 Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru'r rhai a'u câr hwythau.
33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth.
34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.