34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog.
37 Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemniwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:
38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
39 Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?
40 Nid yw'r disgybl uwchlaw ei athro: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro.