8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd.
9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli?
10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Iesu.
12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i'r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion;
14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus;