23 Ac efe a ddywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei einioes, a'i cyll; ond pwy bynnag a gollo ei einioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.
25 Canys pa lesâd i ddyn, er ennill yr holl fyd, a'i ddifetha'i hun, neu fod wedi ei golli?
26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dyn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tad, a'r angylion sanctaidd.
27 Eithr dywedaf i chwi yn wir, Y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll yma a'r nid archwaethant angau, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28 A bu, ynghylch wyth niwrnod wedi'r geiriau hyn, gymryd ohono ef Pedr, ac Ioan, ac Iago, a myned i fyny i'r mynydd i weddïo.
29 Ac fel yr oedd efe yn gweddïo, gwedd ei wynepryd ef a newidiwyd, a'i wisg oedd yn wen ddisglair.