1 Roedd y Brenin Dafydd wedi mynd yn hen iawn. Er iddyn nhw roi blancedi drosto roedd yn methu cadw'n gynnes.
2 Dyma'i weision yn dweud wrtho, “Meistr. Gad i ni chwilio am ferch ifanc i dy nyrsio di a gofalu amdanat ti. Bydd hi'n gallu gorwedd gyda ti, i gadw ein meistr, y brenin, yn gynnes.”
3 Felly, dyma nhw'n chwilio trwy wlad Israel i gyd am ferch ifanc hardd, a ffeindio Abisag o Shwnem, a mynd â hi at y brenin.
4 Roedd hi'n ferch hynod o hardd. A hi fuodd yn edrych ar ôl y brenin a'i nyrsio. Ond wnaeth e ddim cael rhyw gyda hi.
5 Yna dyma Adoneia, mab Dafydd a Haggith, yn dechrau cael syniadau ac yn cyhoeddi, “Dw i am fod yn frenin.” Felly, dyma fe'n casglu cerbydau a cheffylau iddo'i hun, a threfnu cael pum deg o warchodwyr personol.
6 (Wnaeth ei dad ddim ymyrryd o gwbl, a gofyn, “Beth wyt ti'n wneud?”. Roedd Adoneia yn ddyn golygus iawn, ac wedi cael ei eni ar ôl Absalom.)