1 Brenhinoedd 19 BNET

Elias yn dianc am ei fywyd

1 Dyma Ahab yn dweud wrth Jesebel beth roedd Elias wedi'i wneud, a'i fod wedi lladd y proffwydi i gyd.

2 Felly dyma Jesebel yn anfon neges at Elias i ddweud, “Boed i'r duwiau fy melltithio i os na fydda i, erbyn yr adeg yma yfory, wedi dy ladd di fel gwnest ti eu lladd nhw!”

3 Roedd Elias wedi dychryn a dyma fe'n dianc am ei fywyd i Beersheba yn Jwda. Dyma fe'n gadael ei was yno,

4 a cerdded yn ei flaen drwy'r dydd i'r anialwch. Yna dyma fe'n eistedd o dan lwyn banadl a gofyn am gael marw. “Dw i wedi cael digon! ARGLWYDD, cymer fy mywyd i. Dw i ddim gwell na'm hynafiaid.”

5 Yna dyma fe'n gorwedd i lawr a syrthio i gysgu dan y llwyn. A dyma angel yn dod a rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta.”

6 Edrychodd o'i gwmpas, ac roedd yna fara fflat wedi ei bobi ar gerrig poeth, a jwg o ddŵr wrth ei ymyl. Dyma fe'n bwyta ac yfed ac yna mynd yn ôl i gysgu eto.

7 Dyma angel yr ARGLWYDD yn dod eto, rhoi pwt iddo a dweud, “Cod, bwyta, achos mae taith hir o dy flaen di.”

8 Felly dyma fe'n codi, a bwyta ac yfed. Yna, ar ôl bwyta, cerddodd yn ei flaen ddydd a nos am bedwar deg diwrnod, a cyrraedd Sinai, mynydd yr ARGLWYDD.

Duw yn siarad gydag Elias wrth fynydd Sinai

9 Dyma fe'n mynd i mewn i ogof i dreulio'r nos. Yn sydyn, dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag e,“Be wyt ti'n wneud yma, Elias?”

10 A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

11 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos allan a sefyll ar y mynydd o'm blaen i.” A dyma wynt stormus yn chwythu o flaen yr ARGLWYDD a taro'r mynydd a'r creigiau nes achosi tirlithriad. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y gwynt. Ar ôl y gwynt roedd yna ddaeargryn. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y daeargryn.

12 Wedyn ar ôl y daeargryn daeth tân. Ond doedd yr ARGLWYDD ddim yn y tân. Wedyn ar ôl tân roedd distawrwydd llwyr.

13 Pan glywodd Elias hyn, dyma fe'n lapio'i glogyn dros ei wyneb a mynd i sefyll wrth geg yr ogof. A dyma lais yn gofyn iddo,“Be wyt ti'n wneud yma Elias?”

14 A dyma fe'n ateb, “Dw i wedi bod yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus. Ond mae pobl Israel wedi troi cefn ar dy ymrwymiad iddyn nhw. Maen nhw wedi chwalu dy allorau di a lladd dy broffwydi. A dyma fi, yr unig un sydd ar ôl, ac maen nhw eisiau fy lladd i hefyd!”

15 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho, “Dos yn ôl y ffordd daethost ti, a mynd ymlaen i anialwch Damascus. Dos i eneinio Hasael yn frenin ar Syria.

16 Wedyn rwyt i eneinio Jehw fab Nimshi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Shaffat o Abel-mechola i gymryd dy le di fel proffwyd.

17 Bydd Jehw yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Hasael, a bydd Eliseus yn lladd pwy bynnag fydd yn dianc rhag cleddyf Jehw.

18 A gyda llaw, mae gen i saith mil o bobl yn Israel sydd heb fynd ar eu gliniau i addoli Baal, a chusanu ei ddelw.”

Galwad Eliseus

19 Felly dyma Elias yn mynd, ac yn dod o hyd i Eliseus fab Shaffat yn aredig. Roedd un deg dau o barau o ychen yno i gyd, ac roedd Eliseus yn gweithio gyda'r pâr olaf. Dyma Elias yn mynd heibio ac yn taflu ei glogyn dros Eliseus wrth basio.

20 A dyma Eliseus yn gadael yr ychen, rhedeg ar ôl Elias, a dweud wrtho, “Plîs gad i mi fynd i ffarwelio â dad a mam, ac wedyn dof i ar dy ôl di.” A dyma Elias yn ateb, “Iawn, dos yn ôl, ond meddylia di beth dw i newydd ei wneud i ti!”

21 Felly dyma Eliseus yn mynd yn ei ôl. Lladdodd y ddau ychen oedd ganddo, a defnyddio'r gêr a'r iau i wneud tân gyda nhw. Coginiodd y cig ar y tân, a dyma bobl y pentref i gyd yn cael bwyta.Yna dyma fe'n mynd ar ôl Elias, i fod yn was iddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22