1 Brenhinoedd 5 BNET

Solomon yn gofyn i Hiram am goed i adeiladu'r Deml

1 Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes.

2 Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato,

3 “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd.

4 Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.

5 Felly dw i am adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth Dafydd, fy nhad, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’

6 Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.”

7 Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.”

8 A dyma Hiram yn anfon neges yn ôl at Solomon, yn dweud, “Dw i wedi cael dy neges di. Cei faint bynnag wyt ti eisiau o goed cedrwydd a coed pinwydd.

9 Gwnaiff fy ngweision i ddod â nhw i lawr o Libanus at y môr. Yno byddan nhw'n eu gwneud yn rafftiau, a mynd â nhw i ble bynnag wyt ti'n ddweud. Wedyn byddwn ni'n eu dadlwytho, a caiff dy weision di eu cymryd nhw. Cei di dalu drwy gyflenwi'r bwyd sydd ei angen ar fy llys brenhinol i.”

10 Felly, dyma Hiram yn rhoi i Solomon yr holl goed cedrwydd a choed pinwydd oedd e eisiau.

11 Roedd Solomon yn rhoi dau ddeg mil o fesurau o wenith a cant dau ddeg mil o alwyni o olew olewydd pur i Hiram bob blwyddyn.

12 Felly, roedd yr ARGLWYDD wedi rhoi doethineb i Solomon, fel gwnaeth e addo. A dyma Hiram a Solomon yn gwneud cytundeb heddwch.

Gweithwyr Solomon

13 Dyma Solomon yn casglu tri deg mil o ddynion o bob rhan o Israel, a'u gorfodi i weithio iddo yn ddigyflog.

14 Roedd yn eu gyrru nhw i Libanus bob yn ddeg mil. Roedden nhw'n gweithio yn Libanus am fis ac yna'n cael dau fis gartref. Adoniram oedd y swyddog oedd yn gyfrifol am y gweithlu gorfodol.

15 Yn ogystal â'r rhain roedd gan Solomon saith deg mil o labrwyr ac wyth deg mil o chwarelwyr yn y bryniau,

16 heb sôn am y tair mil tri chant o fformyn oedd yn arolygu'r gweithwyr.

17 Roedd y brenin wedi gorchymyn iddyn nhw ddod â cherrig anferth, costus wedi eu naddu'n barod i adeiladu sylfeini'r deml.

18 Roedd dynion o Gebal yn helpu adeiladwyr Solomon a Hiram i naddu'r cerrig a paratoi'r coed ar gyfer adeiladu'r deml.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22