32 Yna dyma'r Brenin Dafydd yn dweud, “Galwch Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada yma.”Wedi iddyn nhw ddod,
33 dyma'r brenin yn dweud wrthyn nhw, “Cymerwch fy ngweision i gyd gyda chi, rhowch Solomon i farchogaeth ar gefn fy mul i, ac ewch â fe i lawr i Gihon.
34 Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’
35 Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.”
36 A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie'n wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny.
37 Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.”
38 Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon.