34 Yno, dych chi, Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd, i'w eneinio'n frenin ar Israel. Yna dych chi i chwythu'r corn hwrdd a gweiddi, ‘Hir oes i'r Brenin Solomon!’
35 Wedyn dewch ag e yn ôl yma i eistedd ar fy ngorsedd i. Fe ydy'r un fydd yn frenin yn fy lle i. Dw i wedi gorchymyn mai fe sydd i deyrnasu ar Israel a Jwda.”
36 A dyma Benaia fab Jehoiada yn ateb y brenin, “Ie'n wir! Boed i'r ARGLWYDD dy Dduw di, fy meistr y brenin, gadarnhau hynny.
37 Fel mae'r ARGLWYDD wedi bod gyda ti, fy mrenin, bydd gyda Solomon hefyd. A boed iddo wneud y frenhiniaeth honno hyd yn oed yn fwy llewyrchus na dy frenhiniaeth di, fy meistr, y Brenin Dafydd.”
38 Felly dyma Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada, a gwarchodlu'r brenin (Cretiaid a Pelethiaid), yn rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y Brenin Dafydd a mynd i lawr i Gihon.
39 Wedyn dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!”
40 A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio.