39 Wedyn dyma Sadoc yr offeiriad yn cymryd y corn o olew olewydd o'r babell ac yn ei dywallt ar ben Solomon a'i eneinio'n frenin. Yna dyma nhw'n canu'r corn hwrdd ac roedd pawb yn gweiddi, “Hir oes i'r Brenin Solomon!”
40 A dyma pawb yn ei ddilyn yn ôl i Jerwsalem, yn canu offerynnau chwyth a gwneud cymaint o stŵr wrth ddathlu nes bod y ddaear yn atseinio.
41 Roedd Adoneia, a'r holl bobl roedd e wedi eu gwahodd ato, wrthi'n gorffen bwyta pan glywon nhw'r sŵn. Pan glywodd Joab sŵn y corn hwrdd, dyma fe'n gofyn, “Beth ydy'r holl dwrw yna yn y ddinas?”
42 Wrth iddo siarad dyma Jonathan, mab Abiathar yr offeiriad, yn cyrraedd. A dyma Adoneia'n dweud wrtho, “Tyrd i mewn. Ti'n ddyn da, ac mae'n siŵr fod gen ti newyddion da i ni.”
43 Ond dyma Jonathan yn ateb, “Na, dim o gwbl, syr. Mae'r Brenin Dafydd wedi gwneud Solomon yn frenin.
44 Dyma fe'n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda'i warchodlu (y Cretiaid a'r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin.
45 Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe'n frenin yn Gihon. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae'r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy'r sŵn dych chi'n ei glywed.