44 Dyma fe'n anfon Sadoc yr offeiriad, Nathan y proffwyd a Benaia fab Jehoiada gyda'i warchodlu (y Cretiaid a'r Pelethiaid), a rhoi Solomon i farchogaeth ar ful y brenin.
45 Yna dyma Sadoc yr offeiriad a Nathan y proffwyd yn ei eneinio fe'n frenin yn Gihon. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl i fyny i Jerwsalem yn dathlu, ac mae'r ddinas yn llawn cynnwrf. Dyna ydy'r sŵn dych chi'n ei glywed.
46 Mae Solomon bellach yn eistedd ar orsedd y brenin.
47 Pan aeth y swyddogion i gyd i longyfarch y Brenin Dafydd, dyma nhw'n dweud wrtho, ‘Boed i Dduw wneud Solomon yn fwy enwog na ti, a gwneud ei deyrnasiad e'n fwy llwyddiannus!’ Roedd y brenin yn plygu i addoli Duw ar ei wely
48 a'i ymateb oedd, ‘Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel. Heddiw mae wedi rhoi olynydd i mi ar yr orsedd, a dw i wedi cael byw i weld y peth!’”
49 Dyma bawb oedd Adoneia wedi eu gwahodd ato yn panicio, codi ar eu traed a gwasgaru i bob cyfeiriad.
50 Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe'n mynd a gafael yng nghyrn yr allor.