50 Roedd gan Adoneia ei hun ofn Solomon hefyd, a dyma fe'n mynd a gafael yng nghyrn yr allor.
51 Dyma nhw'n dweud wrth Solomon, “Mae gan Adoneia dy ofn di. Mae e'n gafael yng nghyrn yr allor ac yn dweud, ‘Dw i eisiau i'r Brenin Solomon addo y bydd e ddim yn fy lladd i â'r cleddyf.’”
52 A dyma Solomon yn dweud, “Os bydd e'n ffyddlon, fydd dim blewyn ar ei ben yn cael niwed. Ond os bydd e'n gwneud rhywbeth drwg, bydd yn marw.”
53 Felly dyma Solomon yn anfon dynion i ddod ag e i lawr o'r allor, a dyma fe'n dod ac ymgrymu i lawr o flaen Solomon. A dyma Solomon yn dweud wrtho, “Dos adre.”