1 Roedd brenhines Sheba wedi clywed mor enwog oedd Solomon, a'r clod roedd yn ei roi i'r ARGLWYDD. Felly dyma hi'n dod i roi prawf iddo drwy ofyn cwestiynau anodd.
2 Cyrhaeddodd Jerwsalem gyda'i gwarchodlu yn grand i gyd, gyda nifer fawr o gamelod yn cario perlysiau, a lot fawr o aur a gemau gwerthfawr. Aeth i weld Solomon, a'i holi am bob peth oedd ar ei meddwl.
3 Roedd Solomon yn gallu ateb ei chwestiynau i gyd. Doedd dim byd yn rhy anodd iddo ei esbonio iddi.
4-5 Roedd brenhines Sheba wedi'i syfrdanu wrth weld mor ddoeth oedd Solomon. Hefyd wrth weld y palas roedd wedi ei adeiladu, y bwydydd ar ei fwrdd, yr holl swyddogion oedd yn eistedd yno, pawb oedd yn gweini arno, eu gwisgoedd, a'r wetars i gyd. A hefyd yr holl aberthau roedd yn eu llosgi i'r ARGLWYDD yn y deml.
6 A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.