13 Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn rhoi i frenhines Sheba bopeth roedd hi'n gofyn amdano. Roedd hyn ar ben y cwbl roedd e wedi ei roi iddi o'i haelioni ei hun. Yna dyma hi'n mynd yn ôl adre i'w gwlad ei hun gyda'i gweision.
14 Roedd Solomon yn derbyn dau ddeg pum tunnell o aur bob blwyddyn,
15 heb gyfri'r hyn roedd yn ei dderbyn mewn trethi gan fasnachwyr, y farchnad sbeis, brenhinoedd Arabia a llywodraethwyr y rhanbarthau.
16 Dyma Solomon yn gwneud dau gant o darianau mawr o aur wedi ei guro. Roedd yna tua saith cilogram o aur ym mhob tarian!
17 Hefyd, tri chant o darianau bach, gyda bron ddau cilogram o aur ym mhob un o'r rheiny. A dyma fe'n eu gosod nhw i fyny yn Plas Coedwig Libanus.
18 Wedyn dyma'r Brenin Solomon yn gwneud gorsedd fawr o ifori, wedi ei gorchuddio gydag aur coeth.
19 Roedd yna chwe gris i fyny at yr orsedd. Roedd pen llo ar gefn yr orsedd a llew yn sefyll wrth ymyl y breichiau ar y ddwy ochr.