6 A dyma hi'n dweud wrth y brenin, “Mae popeth wnes i glywed amdanat ti yn wir – yr holl bethau rwyt ti wedi eu cyflawni, ac mor ddoeth wyt ti.
7 Doeddwn i ddim wedi credu'r peth nes i mi ddod yma a gweld y cwbl â'm llygaid fy hun. Wir, doedden nhw ddim wedi dweud yr hanner wrtho i! Mae dy ddoethineb a dy gyfoeth di'n fwy o lawer na beth ddywedwyd wrtho i.
8 Mae'r bobl yma wedi eu bendithio'n fawr – y gweision sy'n gweini arnat ti o ddydd i ddydd ac yn cael clywed dy ddoethineb di.
9 Bendith ar yr ARGLWYDD dy Dduw wnaeth dy ddewis di i eistedd ar orsedd Israel! Mae wedi dy wneud di yn frenin am ei fod yn caru Israel, i ti lywodraethu'n gyfiawn ac yn deg.”
10 A dyma hi'n rhoi pedair tunnell a hanner o aur, llwythi o sbeisiau a gemau gwerthfawr i'r brenin. Welwyd erioed gymaint o berlysiau a'r hyn roedd brenhines Sheba wedi ei roi i'r Brenin Solomon.
11 (Hefyd roedd llongau Hiram, oedd yn cario aur o Offir, wedi dod â llwythi lawer o goed arbennig, sef pren Almug, a gemau gwerthfawr.
12 Dyma'r brenin yn gwneud grisiau i deml yr ARGLWYDD a palas y brenin o'r pren Almug, a hefyd telynau a nablau i'r cerddorion. Does neb wedi gweld cymaint o bren Almug ers hynny!)